WOW Film Festival - EcoSinema

The Last Forests: Voices From the Amazon

After unlocking, access instructions sent via email
Stream began September 23, 2021 6:00 PM UTC
Already unlocked? for access
£0After unlocking, you will be provided instructions to access this content externally. Need help?

CLICK HERE to book your ticket for the online screening of the accompanying film The Last Forest, available Sep 19th - 26th.


The Yanomami’s struggle featured in THE LAST FOREST is a microcosm of the dangers the world faces. How can we support the Yanomami to uphold their rights to their land and to live in their own way?


Fiona Watson (Research and Advocacy Director at Survival International) and Sue Branford (Latin American Bureau Editor) will join WOW Film Festival’s director, David Gillam, to delve deeper into the issues facing Indigenous peoples that are highlighted in THE LAST FOREST. Clearly Indigenous peoples with their sustainable way of life are the best protectors of the forest. By preventing deforestation and biodiversity loss, they are key to our global struggle to reduce the impact of the climate crisis. The outcome of the violent conflict between Brazil's Indigenous peoples and President Bolsonaro’s extreme, right-wing government and the powerful agribusiness sector will not only define the Indigenous peoples’ way of life, but also our planet’s survival.


Fiona Watson is Research and Advocacy Director at Survival International, the global movement for tribal peoples' rights. She has been with Survival since 1990 and worked on many campaigns for indigenous peoples' rights, notably with the Yanomami, Guarani, and Awá in Brazil. Fiona has visited many indigenous communities in South America and is a specialist on uncontacted tribes in the Amazon. She has visited tribal communities in Africa and Asia and co-ordinated Survival's campaign with the Central Kalahari Bushmen of Botswana. She carried out fieldwork with a Quechua indigenous community in the Peruvian Andes for her MA and lived in the Brazilian Amazon for two years. 


Sue Branford began her career as a journalist by working in Brazil in the 1970s as correspondent for the Financial Times, the Economist, and the Observer. On returning to the UK, she worked for the BBC World Service. Sue has published five books, including The Last Frontier – Fighting over Land in the Amazon and Cutting the Wire – the Story of the Landless Movement in Brazil, which was awarded the Vladimir Herzog human rights prize. Sue is currently involved in a research project in the Amazon and is a volunteer editor at Latin America Bureau. She writes regularly for the environmental website Mongabay.





Mae brwydr y Yanomami a welir yn THE LAST FOREST yn ficrocosm o'r peryglon y mae'r byd yn eu hwynebu. Sut allwn ni gefnogi'r Yanomami i gynnal eu hawliau i'w tir ac i fyw yn eu ffordd eu hunain?


Bydd Fiona Watson (Cyfarwyddwr Ymchwil ac Eiriolaeth yn Survival International) a Sue Branford (Golygydd Biwro America Ladin) yn ymuno â David Gillam, cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm WOW, i ymchwilio’n ddyfnach i’r materion sy’n wynebu pobl frodorol a amlygir yn THE LAST FOREST. Mae’n amlwg mai Pobl brodorol â'u ffordd gynaliadwy o fyw yw gwarcheidwaid gorau'r goedwig. Trwy atal datgoedwigo a cholli bioamrywiaeth, maen nhw’n allweddol i'n brwydr fyd-eang i leihau effaith yr argyfwng hinsawdd. Bydd canlyniad y gwrthdaro treisgar rhwng pobloedd brodorol Brasil a llywodraeth eithafol, asgell dde’r Arlywydd Bolsonaro a’r sector busnes amaeth pwerus nid yn unig yn diffinio ffordd o fyw’r bobl frodorol, ond hefyd goroesiad ein planed.


Mae Fiona Watson yn Gyfarwyddwr Ymchwil ac Eiriolaeth yn Survival International, y mudiad byd-eang dros hawliau pobl lwythol. Mae hi wedi bod gyda Survival ers 1990 ac wedi gweithio ar lawer o ymgyrchoedd dros hawliau pobl frodorol, yn enwedig gyda'r Yanomami, Guarani, ac Awá ym Mrasil. Mae Fiona wedi ymweld â llawer o gymunedau brodorol yn Ne America ac mae'n arbenigwraig ar lwythau nas cysylltwyd â nhw yn yr Amason. Mae hi wedi ymweld â chymunedau llwythol yn Affrica ac Asia ac wedi cydlynu ymgyrch Survival gyda Llwynwyr Canolbarth y Kalahari o Fotswana. Bu’n cynnal gwaith maes gyda chymuned frodorol Quechua yn yr Andes ym Mheriw ar gyfer ei MA a bu’n byw yn Amason Brasil am ddwy flynedd.


Dechreuodd Sue Branford ei gyrfa fel newyddiadurwraig yn gweithio ym Mrasil yn y 1970au fel gohebydd i'r Financial Times, yr Economist, a'r Observer. Ar ôl dychwelyd i'r DU, bu’n gweithio i’r BBC World Service. Mae Sue wedi cyhoeddi pum llyfr, gan gynnwys – Fighting over Land in the Amazon a Cutting the Wire – the Story of the Landless Movement in Brazil, y dyfarnwyd iddo wobr hawliau dynol Vladimir Herzog. Ar hyn o bryd mae Sue yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil yn yr Amason ac yn olygydd gwirfoddol ym Miwro America Ladin. Mae hi'n ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer gwefan amgylcheddol Mongabay.